Welsh English

REQUEST A QUOTE

Here is some helpful information to read through before you start to find your new car:

  • Gross salary When you first log in, you will be asked for your gross salary. Please only enter your contracted gross salary, excluding overtime and bonus payments.
    Your initial quote will show the net cost to you after savings. A full, detailed breakdown is also available.
  • Net cost includes the salary sacrifice, income tax, national insurance and any pension savings, and the ‘Benefit in Kind’ tax you will pay.
  • Business mileage reimbursement is based on your estimated business mileage included in the quote and current HMRC fuel rates.
  • Pension savings these are dependent on the pension scheme you are a member of. When creating your account you can select the appropriate pension scheme. A simple summary table is below with further details can be found on our FAQ page.

  • Pension Impact
    USS No pension savings as no effect on pension contributions.
    LGPS Pension savings, but reduces pension contributions and will affect pension.
    TPS Pension savings, but reduces pension contributions and will affect pension.

  • Change of circumstances If you are expecting a change in your personal circumstances e.g., maternity, adoption or paternity leave, sickness, hours worked etc. or you receive tax credits, please review the scheme rules and policy carefully and consider the impact a salary sacrifice arrangement may have.
  • End of lease At the end of your salary sacrifice arrangement, you will return to your original salary and terms and conditions of employment.
  • Insurance details and criteria can be found on the FAQ page.
  • All quotes are valid for 21 days but may be subject to change to reflect any variations in supply costs, interest rates or government grants and legislation.

GOFYN AM DDYFYNBRIS

Dyma wybodaeth ddefnyddiol i'w darllen cyn ichi ddechrau dod o hyd i'ch car newydd:

  • CYFLOG GROS y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi, gofynnir i chi fewnbynnu eich cyflog gros. Nodwch eich cyflog gros contractiol yn unig, heb gynnwys goramser a thaliadau bonws. Bydd eich dyfynbris cychwynnol yn dangos y gost net ichi ar ôl arbedion. Maedadansoddiad llawn, manwl hefyd ar gael.
  • Mae’r AD-DALIAD AM FILLTIROEDD yn seiliedig ar yr amcangyfrif o'ch milltiredd busnes sydd wedi’i gynnwys yn y dyfynbris a chyfraddau tanwydd cyfredol CThEF.
  • CYNILION PENSIWN Mae'r rhain yn dibynnu ar y cynllun pensiwn yr ydych yn aelod ohono. Gallwch ddewis y cynllun pensiwn priodol pan ydych yn creu eich cyfrif. Ceir tabl cryno syml isod ac mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan Cwestiynau cyffredin.

  • PENSIWN EFFAITH
    USS Dim cynilion pensiwn oherwydd nad cheir effaith ar gyfraniadau pensiwn.
    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) Bydd yn arwain at gynilion pensiwn, ond bydd yn lleihau cyfraniadau pensiwn ac yn effeithio ar eich pensiwn.
    Cynllun Pensiwn Athrawon (TPS) Bydd yn arwain at gynilion pensiwn, ond bydd yn lleihau cyfraniadau pensiwn ac yn effeithio ar eich pensiwn.

  • NEWID YN EICH AMGYLCHIADAU Os ydych yn disgwyl newid yn eich amgylchiadau personol, e.e. absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu dadolaeth, salwch, eich oriau gwaith ac ati, neu os ydych yn derbyn credydau treth, dylech roi sylw gofalus i reolau a pholisi’r cynllun ac ystyried yr effaith y gall trefniant aberthu cyflog ei gael ar eich sefyllfa ariannol..
  • DIWEDD Y CYFNOD PRYDLESU Ar ddiwedd eich trefniant aberthu cyflog, byddwch yn dychwelyd i'ch cyflog a thelerau ac amodau cyflogaeth gwreiddiol.
  • YSWIRIANT Gellir gweld manylion a meini prawf yr yswiriant ar y wefan Cwestiynau cyffredin.
  • Mae POB DYFYNBRIS yn ddilys am 21 diwrnod ond gallant newid i adlewyrchu unrhyw amrywiadau mewn costau cyflenwi, cyfraddau llog, grantiau’r llywodraeth neu’r ddeddfwriaeth.