Welsh English

Electric FAQ

The majority of EVs available in the UK market can be leased.

When you request a quote, simply select ‘electric’ from the fuel type options to view the full range on offer.

If you don’t see the specific EV you would like listed, please call our quotes team on 01206 255420.

Battery Electric (BEV) – Fully electric vehicles that run solely on battery power. The battery is replenished by plugging into a home or public charge point and topped up through regenerative braking.

Plug-in Hybrid (PHEV) – Dual motor, typically electric and petrol. PHEVs have a smaller all-electric range than BEVs but for longer journeys, can be driven on petrol only. The battery is charged using a home or public charging station and boosted by regenerative braking.

Full Hybrid (FHEV) – Self charging hybrids with a petrol/ diesel engine and an electric motor. The battery recharges through regenerative braking only; there is no plug in option. FHEVs do not have a significant electric range but can switch to electric only when pulling away (generally up to 20 mph max.) if the battery has enough charge. The main function of the electric motor is to increase the vehicle’s MPG.

Manufacturers are currently taking around 26 weeks to produce and deliver a new car. However, this can be subject to change. We will keep you fully informed with regular delivery updates once your order is placed.

EVs require less maintenance as the engine has fewer moving parts and there are no gears or exhaust to worry about. You also won’t need to think about oil changes and regenerative braking places less wear and tear on the brakes.

Teslas are available to lease via our website (subject to your organisation’s policy) although there are several factors unique to Tesla you should be aware of:

  • Increased service, maintenance and repair times - Work can take longer to complete due to availability of replacement parts. If you are issued with a courtesy car, it is unlikely to be Tesla.
  • Vehicle delivery - You may be required to collect your vehicle from your nearest Tesla delivery centre. Depending on your location, this could mean travelling a considerable distance as the number of stores in the UK is limited.
  • Range on collection - We have been advised that all Teslas leave the factory with only 20-30% range capacity. Some dealerships will make sure your new car is fully charged before collection but we cannot guarantee this.
  • Correspondence from Tesla - If you receive any correspondence or updates directly from Tesla or via the Tesla website or app relating to your order, please forward the information to us as soon as possible. Vehicle collection must be arranged via Knowles Fleet and not directly with Tesla otherwise you could risk driving an uninsured vehicle.
  • Insurance excess - The excess for all Tesla insurance claims (excluding windscreens) is £750.

HMRC has set Benefit in Kind tax (BIK) for EVs at 2% to 2025. This low rate compared to petrol and diesel vehicles makes leasing an EV through your employer car scheme a cost effective option.

Charging an electric vehicle is much cheaper per mile than filling up with petrol or diesel. You can compare the costs here

Electric cars are typically more expensive to buy than equivalent petrol and diesel models so leasing can often prove an affordable way to make the switch, especially under a salary sacrifice arrangement where you benefit from tax and National Insurance savings too.

Yes. The reimbursement will show as a credit on the quote.

An advisory electricity rate for fully electric vehicles is set by government. This is currently 5p per mile. If your employer chooses to pay more than this rate, the value above is subject to income tax and National Insurance contributions.

You can charge an electric vehicle at home (if your property is suitable for a charge point to be installed), at some workplaces or by using one of the growing number of public charging points.

Charging at home is usually the most convenient and cheapest option although some work and public charge points are free to use e.g. at some supermarkets, attractions, hotels and car parks.

Information on the location of public charge points, including those that are free, is widely available online, for example here

The time it takes to charge your EV will vary depending on the model and type of charger you use.

You have two options: using a domestic three pin plug or a dedicated wall box.

A domestic socket is fine for occasional use but a wall box is faster and safer. If you are going to use a domestic three pin socket, please check with a certified electrician that it is suitable for long periods of heavy use to avoid over-heating. Some manufacturers don’t supply three pin charging cables as standard equipment for this reason.

Wall box power outputs vary but are usually 3.6kW or 7kW compared to 2.3kW for a three pin plug. Some home chargers provide 22kW but these require three phrase electricity which is rare and expensive to install.

The number of public charging stations is growing daily, ranging in speed from slow to fast and ultra rapid. Tesla drivers have their own Supercharger network of rapid points.

Slow – usually 3kW, suitable for overnight charging (8-10 hours for full charge).

Fast – 7kW or 22kW, typically taking 3-4 hours to fully charge.

Rapid – From 43kW and only compatible with rapid charging function EVs. Offers full charge in 30-60 minutes.

Although the cost to install a home charge point is not included with your lease, we have partnered with leading specialist Pod Point to offer an easy solution. We can also support with the provision of an alternative portable charger. To take advantage of this priority service, please email mailto:evcharging@kafleet.com or call us on 01206 255422 so we can refer you.

All requests for lease car information from your charge point installer should be referred to evcharging@kafleet.com

Please note that from April 2022, the Electric Vehicle Home Charge Scheme (EVHS) grant is now limited to owners of flats or those living in rented accommodation only.

If you don’t have a driveway or off-street parking, there are still lots of options to charge on the street or while you’re out and about. Many places like supermarkets, public car parks, shopping centres, train stations and service stations offer charge points and some are free to use.

Most manufacturers include a charging cable with an EV. However, please check which cable (if any) is included with your vehicle before placing your application.

Most home and public charge points use a Type 2 connector. If you plan to have a home charge point fitted, please check with the vehicle manufacturer that the car you are leasing includes the correct cable.

You can order a Type 2 charging cable from our home charging partner if you use them for an installation.

Here are some useful links to help you calculate home charging and public charging costs.

Many electricity providers now offer EV tariffs that provide cheaper, off-peak electricity to charge your EV for less. Charge point technology is also becoming more sophisticated with smart features that choose the cheapest, greenest times to charge.

The UK has one of the world’s most advanced charge point networks and it’s growing all the time. Many public charging stations can charge more than one vehicle at the same time and most major routes are well served by rapid chargers located at service stations and rest stops near motorways and A-roads.

The type of connector you use will depend on your EV and the speed of the charging point you use.

In the UK, five types of connectors are used:

Three pin plug - single phase, 2-3kW AC. Provides around 5 miles per 30 minutes of charging. Designed for occasional use only.

Type 1 plug - single phase, 3-7kW AC. Gives approx. 12 miles for every 30 minutes of charge time.

Type 2 plus - single phase/ three phase, 3-42kW AC. Provides around 75 miles per 30 minutes of charging.

CHAdeMO plug - three phase, 50kW DC. Offers approx. 85 mile for every 30 minutes charge time.

Combined Charging System (CCS) plug – 50-350kW DC. Provides 85-200 miles per 30 minutes of charging.

Most EV manufacturers and UK charge points typically use a Type 2 connector

Only if you’re charging from a domestic plug socket. Travel adaptors to convert a three-pin plug are not suitable for the sustained high currents needed for electric vehicle charging.

However, the Type 2 connector is standard across Europe, so public charge points at destinations and rest areas will use the same socket or leads as in the UK.

EV ranges vary considerably depending on the make and model you choose.

The range figures quoted by manufacturers often differ from the more realistic ‘real world’ range which is affected by factors such as driving style, type of journey and weather conditions.

When you’re looking at EV suitability, it is important to consider the real world range which is typically 70-75% of the manufacturer’s quoted range.

If you have any questions or concerns regarding range, please visit the manufacturer website or contact us on 01206 255420 and we’ll be happy to help.

Your EV’s range is influenced by several factors such as driving speed and style, your route and the weather.

The following tips will help increase the range you get from your vehicle:

  • Avoid rapid acceleration.
  • Reduce your speed.
  • Use regenerative braking as much as possible.
  • Limit use of climate control, heating and other electric functions that draw energy from the battery.
  • Choose a route that minimises your power requirement. If possible, take the most direct option that requires travelling at lower speeds and avoids hills.
  • For maximum efficiency, keep your tyres at the correct pressure. The additional battery weight means the tyre life will decrease more quickly if the correct pressure is not maintained.
  • Avoid carrying unnecessary luggage as additional weight can reduce your range.
  • Some EVs have a pre-heat function that can be set to warm the cabin and battery before setting off. A cold battery will not perform as well as a warm one.
  • Familiarise yourself with your EV’s eco settings which can be used to prolong your range. Details of the vehicle’s settings can be found in the driver handbook or on the manufacturer’s website.

Regenerative braking is a system that collects energy generated by friction that would otherwise be lost in a combustion engine vehicle. Once captured, the energy is channelled back to the battery which helps to extend an EV’s range. Most electric/hybrid vehicles will have various eco settings that offer different levels of regenerative braking.

Eventually, as with a petrol or diesel car, you come to a stop. EVs do provide plenty of warning when the range is running low though and some will limit power or shut off systems such as the air conditioning to extend the range.

Range gauges are typically on the cautious side to reduce the risk of breakdown. But if you do run out of charge, the RAC is rolling out an on-board charging system on its latest vans that provides battery top ups at the roadside. However, with the number of rapid chargers across the UK increasing fast, it’s more likely your vehicle will be towed to the nearest service station for a quick recharge.

Only a handful of electric vehicles are legally allowed to tow. Maximum towing weights are set during a process called Type Approval which is carried out before a new vehicle goes on sale. However, it’s an optional part of the assessment. If a manufacturer deems a vehicle unlikely to tow e.g. a high-performance petrol car or shorter range EV – they can choose not to approve it. If a vehicle is sold without approval, then it is illegal to use it for towing.

EV batteries are designed to last the typical lifespan of the vehicles they are fitted to and should retain the majority of capacity for ten years.

This is reflected in vehicle warranties which are typically longer than you’d get with a petrol or diesel engine e.g. Tesla offers an eight year warranty on all its battery packs, guaranteeing it will retain at least 70% of its battery capacity over the timescale.

Electric vehicles can catch fire when they are over-charged or damaged during a crash - but the risk is much lower than for petrol or diesel cars. Tesla claims one vehicle fire for every 205 million miles travelled in its cars, which is ten times less than the overall average. Even during a round of crash testing far in excess of regulatory requirements, German agency DEKRA reported that none of the EVs caught fire or posed an electrocution risk.

If an EV does catch fire, it is typically soaked or submerged in large quantities of water to cool the battery.

Simply visit the dedicated Low Emission Zone or Clean Air Zone website for the city you are driving in and register.

EV batteries can have a second life as power storage for homes, industry and energy generation.

The EU’s Battery Directive also requires at least 50% of a battery in its entirety to be recycled. This typically involves separating out valuable materials such as cobalt and lithium salts, stainless steel, copper, aluminium and plastic.

As the take up of EVs continues to accelerate, vehicle manufacturers are looking at ways to increase the amount of battery material that can be recycled. VW is currently piloting a new plant with a target of recycling 97% of all battery components.

Energy regulator Ofgem estimates that by 2050, electric cars and vans will need 60-100TWh of electricity annually - an increase of 20-30% compared to 2021 levels.

Electricity providers are generally confident they can meet this extra demand, as evidenced in the House of Commons’ Electric vehicles and infrastructure report (December 2021).

This is supported by government regulations which came into effect in July 2022, requiring all home and workplace EV chargers to include smart feature capability. The rapidly advancing technology helps to regulate when charging takes place to manage peak demand which has in fact fallen over the last 20 years.

Vehicle to Grid (V2G) technology could also mean compatible vehicles will be able to supply energy back from their batteries to the grid when extra capacity is required. A National Grid ESO report predicts that by 2050, 45% (5.5 million) electric cars and vans could use this solution.

As battery efficiency, driving range and EV design continue to improve, drivers will also require less power from the grid.

Although electric vehicles have zero tailpipe emissions, they do still produce some pollution from tyre and brake particles. But the main environmental impact comes from EV production.

A European Environment Agency report highlights that emissions from battery electric vehicle production are generally higher than for petrol of diesel equivalents, largely due to the battery manufacturing process.

Most batteries are produced in China, Japan and South Korea where the carbon intensity of electricity is still relatively high - although a sharp increase in the proportion of renewable electricity available in these areas, particularly China, is predicted between now and 2025.

Lithium EV batteries are also largely made up of metals such as copper, aluminium and iron which, along with other essential raw materials, require large amounts of energy to extract.

As EV production methods and battery technologies advance and the carbon intensity of worldwide electricity decreases, total emissions from the manufacture of EVs will fall.

And when you look at the emissions produced across the lifetime of a vehicle, including production, UK government research shows EVs are around 60% cleaner than diesel cars and 66% better for the environment than petrol equivalents. These figures will continue to improve with time.

Yes. The UK Government is banning the sale of new petrol and diesel cars and vans in 2030, and hybrids will follow five years later. There are currently no plans to ban the use of petrol or diesel vehicles sold before these dates.


CWESTIYNAU CYFFREDIN YNGLŶN Â CHEIR TRYDAN

Gellir prydlesu'r rhan fwyaf o'r cerbydau trydan sydd ar gael ar y farchnad yn y DU.

Pan fyddwch yn gofyn am ddyfynbris, dewiswch ‘electric’ o'r opsiynau o fathau o danwydd er mwyn gweld yr ystod lawn sydd ar gael.

Os na welwch y cerbyd trydan penodol yr hoffech chi ei gael yn y rhestr, ffoniwch ein tîm dyfynbrisiau ar 01206 255420.

Batri trydan (BEV) – Cerbydau trydan llawn sy'n rhedeg ar bŵer batri yn unig. Mae'r batri’n cael ei ailwefru drwy ei blygio i mewn i fan gwefru gartref neu gyhoeddus ac ychwanegir ato drwy frecio atgynhyrchiol.

Cerbydau trydan hybrid (PHEV) – Modur deuol – trydan a phetrol fel rheol. Mae’r pellter y gall cerbydau trydan hybrid deithio yn defnyddio trydan yn unig yn fyrrach na cherbydau batri trydan, ond am deithiau cyfnod hirach, gellir eu gyrru ar betrol yn unig. Gwefrir y batri gan ddefnyddio gorsaf wefru gartref neu gyhoeddus ac ychwanegir ato drwy frecio atgynhyrchiol.

Cerbydau trydan hybrid llawn (FHEV) – Cerbydau hybrid sy’n hunan-wefru gydag injan betrol / diesel a modur trydan. Mae'r batri’n ailwefru drwy frecio atgynhyrchiol yn unig; nid oes opsiwn i’w blygio i mewn. Nid yw cerbydau trydan hybrid llawn yn gallu teithio am bellterau sylweddol ar drydan ond maent yn gallu newid i bŵer trydanol yn unig wrth dynnu i ffwrdd (yn gyffredinol hyd at 20 mya ar y mwyaf) os yw’r batri wedi’i wefru’n ddigonol. Prif swyddogaeth y modur trydan yw cynyddu effeithlonrwydd y cerbyd (milltiroedd y galwyn).

Ar hyn o bryd, mae’n cymryd tua 26 wythnos i weithgynhyrchwyr gynhyrchu car newydd a’i ddanfon. Fodd bynnag, gall hyn newid. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynglŷn â dyddiadau danfon ar ôl ichi archebu.

Mae angen llai o waith cynnal a chadw ar gerbydau trydan oherwydd bod gan yr injan lai o rannau symudol ac nid oes unrhyw gerau nac egsôst i boeni amdanynt. Ni fydd angen ichi feddwl am newid olew ychwaith, ac mae brecio atgynhyrchiol yn achosi llai o draul a gwisgo ar y breciau.

Mae ceir Tesla ar gael i'w prydlesu drwy ein gwefan (yn amodol ar bolisi eich sefydliad) er bod sawl ffactor unigryw i geir Tesla y dylech fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Gwasanaethau a gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio’n cymryd amser hir - Gall gwaith gymryd amser hirach i'w gwblhau gan ddibynnu ar b’un a yw rhannau newydd ar gael. Os ydych yn cael car cwrteisi, mae'n annhebygol o fod yn gar Tesla.
  • Danfon cerbydau - Mae’n bosibl y bydd angen ichi gasglu’ch cerbyd o’ch canolfan ddosbarthu Tesla agosaf. Gan ddibynnu ar eich lleoliad, gallai hyn olygu teithio cryn bellter gan fod nifer cyfyngedig o siopau yn y DU.
  • Ystod deithio wrth gasglu - Rydym wedi cael gwybod bod pob car Tesla yn gadael y ffatri gyda dim ond 20-30% o gapasiti ei ystod deithio. Bydd rhai delwriaethau’n sicrhau bod eich car newydd wedi'i wefru'n llawn cyn ichi ei gasglu ond ni allwn sicrhau hyn.
  • Gohebiaeth gan Tesla - Os byddwch yn derbyn unrhyw ohebiaeth neu diweddariadau yn uniongyrchol gan Tesla neu drwy wefan neu ap Tesla yn ymwneud â'ch archeb, anfonwch y wybodaeth atom cyn gynted ag y bo modd. Rhaid trefnu casglu cerbydau drwy Knowles Fleet ac nid yn uniongyrchol â Tesla. Fel arall, gallech fod yn mentro gyrru cerbyd heb yswiriant.
  • Taliadau yswiriant ychwanegol - Rhaid talu taliad yswiriant ychwanegol o £750 ar gyfer holl hawliadau yswiriant Tesla (ac eithrio ffenestri blaen).

Mae CThEF wedi gosod cyfradd o 2% ar gyfer y dreth buddion mewn nwyddau neu wasanaethau ar gyfer cerbydau trydan hyd at 2025. Mae hyn yn gyfradd isel o'i chymharu â cherbydau petrol a diesel, sy'n golygu bod prydlesu cerbyd trydan drwy gynllun ceir eich cyflogwr yn opsiwn cost effeithiol.

Mae gwefru cerbyd trydan yn llawer rhatach y filltir na llenwi car gyda phetrol neu ddiesel. Gallwch gymharu'r costau yma

Fel rheol, mae ceir trydan fel arfer yn ddrytach i'w prynu na modelau petrol a diesel cyfatebol, felly yn aml gall prydlesu fod yn ffordd fforddiadwy o newid, yn enwedig o dan drefniant aberthu cyflog lle rydych yn elwa ar arbedion treth ac Yswiriant Gwladol hefyd.

Gallwch. Bydd yr ad-daliad yn ymddangos fel credyd ar y dyfynbris.

Mae’r llywodraeth yn gosod cyfradd trydan gynghorol ar gyfer cerbydau trydan llawn. Ar hyn o bryd, 5c y filltir yw’r gyfradd. Os yw eich cyflogwr yn dewis talu mwy na'r gyfradd hon, gall treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol fod yn daladwy ar y gwerth uwchlaw’r gyfradd.

Gallwch wefru cerbyd trydan gartref (os yw eich eiddo'n addas ar gyfer gosod man gwefru ynddo), mewn rhai gweithleoedd neu drwy ddefnyddio un o'r nifer cynyddol o fannau gwefru cyhoeddus.

Fel arfer, gwefru gartref yw'r opsiwn mwyaf cyfleus a rhataf, er bod rhywfaint o mannau gwefru gwaith a chyhoeddus yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, e.e. mewn rhai archfarchnadoedd, atyniadau, gwestai a meysydd parcio.

Mae gwybodaeth am leoliad mannau gwefru cyhoeddus, gan gynnwys y rheini sy'n rhad ac am ddim, ar gael yn eang ar-lein, er enghraifft yma

Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i wefru eich cerbyd trydan yn amrywio gan ddibynnu ar y model a'r math o wefrydd rydych chi'n ei ddefnyddio.

Mae gennych ddau opsiwn: defnyddio plwg tri phin domestig neu flwch wal pwrpasol.

Mae soced domestig yn iawn ar gyfer ei ddefnyddio’n achlysurol, ond mae blwch wal yn gyflymach ac yn fwy diogel. Os ydych yn mynd i ddefnyddio soced tri phin domestig, gwiriwch gyda thrydanwr ardystiedig ei fod yn addas i’w ddefnyddio’n drwm am gyfnodau hir er mwyn osgoi gor-gynhesu. Nid yw rhai gweithgynhyrchwyr yn cyflenwi ceblau gwefru tri phin fel offer safonol oherwydd y rheswm hwn.

Mae allbynnau blychau pŵer wal yn amrywio ond fel arfer maent yn 3.6kW neu 7kW o gymharu â 2.3kW ar gyfer plwg tri phin. Mae rhai gwefrwyr cartref yn darparu 22kW ond mae angen cyflenwad trydan tair gwedd sy'n brin ac yn ddrud i'w osod.

Mae nifer y gorsafoedd gwefru cyhoeddus yn tyfu bob dydd, ac maent yn amrywio o ran y cyflymder gwefru o araf i gyflym ac i chwim iawn. Mae gan yrwyr ceir Tesla eu rhwydwaith 'Supercharger' eu hunain o fannau gwefru chwim.

Araf – 3kW fel arfer, sy'n addas ar gyfer gwefru dros nos (8-10 awr ar gyfer gwefru'n llawn).

Cyflym – 7kW neu 22kW, fel arfer yn cymryd 3-4 awr i wefru'n llawn.

Chwim – 43kW ac uwch a dim ond yn gydnaws â cherbydau trydan â swyddogaeth wefru chwim. Yn cynnig y gallu i wefru'n llawn mewn 30-60 munud.

Er nad yw'r gost o osod man gwefru gartref wedi'i chynnwys yn eich cytundeb prydlesu, rydym wedi partneru ag arbenigwr blaenllaw Pod Point i gynnig ateb hawdd. Gallwn hefyd gefnogi hyn drwy ddarparu gwefrwr cludadwy amgen. Er mwyn manteisio ar y gwasanaeth â blaenoriaeth hwn, anfonwch e-bost at mailto:evcharging@kafleet.com neu ffoniwch ni ar 01206 255422 fel y gallwn eich cyfeirio atynt.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth am geir ar brydles o'ch gosodwr man gwefru at evcharging@kafleet.com

Sylwch, o fis Ebrill 2022 ymlaen, fod grant y Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Gartref bellach wedi'i gyfyngu i berchnogion fflatiau neu'r bobl hynny sy'n byw mewn llety rhent yn unig.

Os nad oes gennych ddreif na man parcio oddi ar y stryd, ceir llawer o opsiynau o hyd i wefru ar y stryd neu tra byddwch allan o gwmpas y lle. Mae llawer o leoedd fel archfarchnadoedd, meysydd parcio cyhoeddus, canolfannau siopa, gorsafoedd trenau a gorsafoedd gwasanaethau yn cynnig mannau gwefru a mae rhai ohonynt ar gael i'w defnyddio yn rhad ac am ddim.

Mae'r rhan fwyaf o weithgynhyrchwyr yn cynnwys cebl gwefru gyda cherbydau trydan. Fodd bynnag, dylech wirio pa gebl (os o gwbl) sydd wedi'i gynnwys gyda'ch cerbyd cyn ichi gyflwyno’ch cais.

Mae'r rhan fwyaf o fannau gwefru gartref a chyhoeddus yn defnyddio cysylltydd Math 2. Os ydych yn bwriadu gosod man gwefru gartref, holwch weithgynhyrchwr y cerbyd a yw’r car yr ydych yn ei brydlesu yn cynnwys y cebl cywir.

Gallwch archebu cebl gwefru Math 2 gan ein partner gwefru gartref os ydych chi'n eu defnyddio ar gyfer gosodiad.

Dyma nifer o ddolenni defnyddiol i'ch helpu i gyfrifo’r costau o wefru gartref ac mewn mannau gwefru cyhoeddus.

Mae llawer o ddarparwyr trydan bellach yn cynnig tariffau cerbydau trydan sy'n darparu trydan rhatach, allfrig er mwyn lleihau’r gost o wefru eich cerbyd trydan. Mae technoleg mannau gwefru hefyd yn dod yn fwy soffistigedig gyda nodweddion clyfar sy'n dewis yr amseroedd rhataf, gwyrddaf i wefru.

Mae gan y DU un o rwydweithiau mannau gwefru mwyaf datblygedig y byd, ac mae'n tyfu drwy'r amser. Gall llawer o orsafoedd gwefru cyhoeddus wefru mwy nag un cerbyd ar yr un pryd ac mae'r rhan fwyaf o brif lwybrau wedi’u gwasanaethu'n dda gan wefrwyr chwim sydd wedi'u lleoli mewn gorsafoedd gwasanaethau a mannau gorffwys ger traffyrdd a ffyrdd A.

Bydd y math o gysylltydd rydych yn ei ddefnyddio’n dibynnu ar eich cerbyd trydan a chyflymder y man gwefru rydych chi'n ei ddefnyddio.

Yn y DU, defnyddir pum math o gysylltydd:

Plwg tri phin - un wedd, 2-3kW, cerrynt eiledol, sy’n darparu tua phum milltir am bob 30 munud o wefru. Wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd achlysurol yn unig.

Plwg math 1 - un wedd, 3-7kW, cerrynt eiledol, sy’n darparu tua 12 milltir am bob 30 munud o amser gwefru.

Plwg math 2 - un wedd / tair gwedd, 3-42kW, cerrynt eiledol, sy’n darparu tua 75 milltir am bob 30 munud o wefru.

Plwg CHAdeMO - tair gwedd, 50kW, cerrynt union, sy’n darparu tua 85 milltir am bob 30 munud o amser gwefru.

Plwg System Gwefru Cyfunol (CCS) – 50-350kW, cerrynt union, sy’n darparu 85-200 milltir am bob 30 munud o wefru.

Mae'r rhan fwyaf o gynhyrchwyr cerbydau trydan a mannau gwefru'r DU fel arfer yn defnyddio cysylltydd math 2

Dim ond os ydych chi'n gwefru o soced plwg domestig. Nid yw addaswyr teithio i drosi plwg tri-phin yn addas ar gyfer y cerhyntau uchel parhaus sydd eu hangen ar gyfer gwefru cerbydau trydan.

Fodd bynnag, mae'r cysylltydd Math 2 yn safonol ledled Ewrop, felly bydd mannau gwefru cyhoeddus mewn cyrchfannau a mannau gorffwys yn defnyddio'r un socedi neu geblau â'r DU.

Mae ystodau teithio cerbydau trydan yn amrywio'n sylweddol gan ddibynnu ar y gwneuthurwr a'r model rydych yn ei ddewis.

Mae'r ffigurau ystod teithio a ddyfynnir gan weithgynhyrchwyr yn aml yn wahanol i'r ystod teithio gwirioneddol mwy realistig sy'n cael ei effeithio gan ffactorau megis yr arddull gyrru, y math o daith ac amodau tywydd.

Pan fyddwch chi'n edrych ar addasrwydd cerbydau trydan, mae'n bwysig ystyried yr ystod teithio gwirioneddol sydd fel arfer 70-75% o'r ystod a ddyfynnir gan y gweithgynhyrchwr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch yr ystod deithio, ewch i wefan y gweithgynhyrchwr neu cysylltwch â ni ar 01206 255420 a byddwn yn falch o helpu.

Mae nifer o ffactorau yn dylanwadu ar ystod teithio eich cerbyd trydan, megis cyflymder ac arddull gyrru, eich dewis lwybr a'r tywydd.

Bydd yr awgrymiadau canlynol yn helpu i gynyddu'r ystod deithio a gewch o’ch cerbyd:

  • Ceisiwch osgoi cyflymu’n gyflym iawn.
  • Ceisiwch leihau eich cyflymder.
  • Defnyddiwch y breciau atgynhyrchiol cymaint â phosib.
  • Ceisiwch gyfyngu ar reoli tymheredd, gwresogi a swyddogaethau trydanol eraill sy'n tynnu ynni o'r batri.
  • Dewiswch lwybr sy'n lleihau eich gofyniad am bŵer. Os yn bosib, cymerwch yr opsiwn mwyaf uniongyrchol sy'n gofyn am deithio ar gyflymder is ac yn osgoi bryniau.
  • Er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf, sicrhewch eich bod yn cadw eich teiars ar y gwasgedd cywir. Mae pwysau ychwanegol y batri yn golygu y bydd hyd oes y teiars yn gostwng yn gynt os na chaiff y gwasgedd cywir ei gynnal.
  • Ceisiwch osgoi cario bagiau diangen oherwydd y gall pwysau ychwanegol leihau eich ystod deithio.
  • Mae gan rai cerbydau trydan swyddogaeth cyn-wresogi y gellir ei osod i gynhesu'r caban a'r batri cyn cychwyn. Ni fydd batri oer yn perfformio cystal ag un cynnes.
  • Ymgyfarwyddwch â gosodiadau eco eich cerbyd trydan a ellir eu defnyddio i ymestyn eich ystod deithio. Gellir dod hyd i fanylion gosodiadau'r cerbyd yn y llawlyfr i yrwyr neu ar wefan y gweithgynhyrchwr.

Mae brecio atgynhyrchiol yn system sy'n casglu’r egni a gynhyrchir gan ffrithiant a fyddai fel arall yn cael ei golli mewn cerbyd injan hylosgi. Ar ôl ei ddal, caiff yr egni ei sianelu yn ôl i'r batri sy'n helpu i ymestyn ystod deithio cerbydau trydan. Bydd y rhan fwyaf o gerbydau trydan / hybrid â gosodiadau eco amrywiol sy'n cynnig lefelau gwahanol o frecio atgynhyrchiol.

Yn y pen draw, yn yr un modd â char petrol neu ddiesel, byddwch chi'n dod i stop. Mae cerbydau trydan yn rhoi digon o rybudd pan fydd yr ystod deithio’n rhedeg yn isel, a bydd rhai yn cyfyngu ar bŵer neu'n cau systemau fel megis aerdymheru er mwyn ymestyn yr ystod deithio.

Fel rheol, mae mesuryddion yr ystod deithio yn gweithredu ar yr ochr ofalus er mwyn lleihau'r risg o dorri i lawr. Ond os ydych yn rhedeg allan o wefr, mae'r RAC yn cyflwyno system wefru ar ei faniau diweddaraf ar hyn o bryd er mwyn darparu gwasanaeth gwefru batri ar ochr y ffordd. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod nifer y gwefrwyr chwim ar draws y DU yn cynyddu'n gyflym, yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd eich cerbyd yn cael ei dynnu i'r orsaf wasanaeth agosaf i gael ei wefru’n gyflym.

Dim ond llond llaw o gerbydau trydan sy'n cael tynnu'n gyfreithiol. Pennir y pwysau tynnu uchaf yn ystod proses a elwir yn Gymeradwyaeth Math, sef proses a gynhelir cyn i gerbyd newydd fynd ar werth. Fodd bynnag, mae'n rhan ddewisol o'r asesiad. Os yw gweithgynhyrchwr yn ystyried y bydd cerbyd yn annhebygol o gael ei ddefnyddio i dynnu, e.e. car petrol perfformiad uchel neu gerbyd trydan ag ystod deithio fyrrach – gallant ddewis peidio â'i gymeradwyo. Os gwerthir cerbyd heb gymeradwyaeth, yna mae'n anghyfreithlon ei ddefnyddio ar gyfer tynnu.

Mae batris cerbydau trydan wedi'u cynllunio i bara oes arferol y cerbydau maent wedi'u gosod ynddynt a dylent gadw'r rhan fwyaf o'r capasiti am 10 mlynedd.

Adlewyrchir hyn yng ngwarantau’r cerbydau hyn, sydd fel arfer yn hirach nag y byddech yn ei gael gydag injan betrol neu ddiesel. E.e. mae Tesla yn cynnig gwarant wyth mlynedd ar ei holl becynnau batri, gan warantu y byddant yn cadw o leiaf 70% o gapasiti’r batri dros y cyfnod hwnnw.

Gall cerbydau trydan fynd ar dân pan fyddant yn cael eu gorwefru neu’n cael eu difrodi yn ystod damwain – ond mae'r risg yn llawer is nag ar gyfer ceir petrol neu ddiesel. Mae Tesla yn honni bod un tân cerbyd yn digwydd fesul pob 205 miliwn o filltiroedd a deithwyd yn ei geir, sydd 10 gwaith yn llai na'r cyfartaledd cyffredinol. Hyd yn oed yn ystod rownd o brofion damwain a gynhaliwyd ar lefel lawer uwch na’r gofynion rheoliadol, adroddodd asiantaeth Almaeneg DEKRA nad aeth yr un o'r cerbydau trydan ar dân ac na wnaeth unrhyw un ohonynt beri risg drydanol.

Os yw cerbyd trydan yn mynd ar dân, fel arfer mae’n cael ei socian neu ei foddi mewn symiau mawr o ddŵr er mwyn oeri'r batri.

Yn syml, ewch i wefan benodol y Parth Allyriadau Isel neu'r Parth Aer Glân ar gyfer y ddinas yr ydych yn gyrru ynddi a chofrestru.

Gall batris cerbydau trydan gael ail fywyd fel storfeydd pŵer ar gyfer cartrefi, diwydiant a chynhyrchu ynni.

Mae Cyfarwyddeb Batri'r UE hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf 50% o fatri yn ei gyfanrwydd yn cael ei ailgylchu. Mae hyn fel arfer yn golygu gwahanu deunyddiau gwerthfawr megis halwynau cobalt a lithiwm, dur gwrthstaen, copr, alwminiwm a phlastig.

Wrth i'r cynnydd yn y nifer o bobl sy'n defnyddio cerbydau trydan barhau i gyflymu, mae gweithgynhyrchwyr cerbydau yn edrych ar ffyrdd o gynyddu faint o ddeunyddiau batris y gellir ei ailgylchu. Mae VW yn treialu ffatri newydd ar hyn o bryd sydd â tharged o ailgylchu 97% o holl gydrannau batris.

Mae'r rheoleiddiwr ynni Ofgem yn amcangyfrif, erbyn 2050, y bydd angen 60-100TWh o drydan ar geir a faniau trydan bob blwyddyn – cynnydd o 20-30% o gymharu â lefelau 2021.

Yn gyffredinol, mae darparwyr trydan yn hyderus y gallant fodloni'r galw ychwanegol hwn, fel y mae adroddiad seilwaith cerbydau trydan (Rhagfyr 2021) Ty'r Cyffredin yn tystio.

Cefnogir hyn gan reoliadau'r llywodraeth a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2022, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl wefrwyr cerbydau trydan gartref ac yn y gweithle gynnwys y gallu i weithredu’n glyfar. Mae'r dechnoleg, sy'n datblygu'n gyflym, yn helpu i reoleiddio pryd fydd gwefru'n digwydd er mwyn rheoli’r galw brig sydd wedi gostwng dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Gallai technoleg Cerbyd i'r Grid (V2G) hefyd olygu bod cerbydau cydnaws yn gallu cyflenwi ynni yn ôl o'u batris i'r grid pan fo angen capasiti ychwanegol. Mae adroddiad ESO y Grid Cenedlaethol yn rhagweld, erbyn 2050, y gallai 45% (5.5 miliwn) o geir a faniau trydan ddefnyddio'r syniad hwn.

Wrth i effeithlonrwydd batris, yr ystod yrru a dyluniadau cerbydau trydan barhau i wella, bydd angen i yrwyr ddefnyddio llai o bŵer o'r grid hefyd .

Er nad yw cerbydau trydan yn allyru drwy egsôst, maent yn dal i gynhyrchu rhywfaint o lygredd o ronynnau teiars a breciau. Ond daw'r prif effaith amgylcheddol o gynhyrchu cerbydau trydan.

Mae adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop yn amlygu bod allyriadau o brosesau cynhyrchu cerbydau trydan batri yn gyffredinol uwch nag ydynt ar gyfer cerbydau petrol a diesel cyfatebol, yn bennaf oherwydd y broses o weithgynhyrchu batris.

Mae'r rhan fwyaf o fatris yn cael eu cynhyrchu yn Tsieina, Japan a De Korea lle mae dwysedd carbon trydan yn parhau i fod yn gymharol uchel – er rhagwelir y bydd cynnydd sydyn yng nghyfran y trydan adnewyddadwy fydd ar gael yn yr ardaloedd hyn, yn enwedig Tsieina, rhwng nawr a 2025.

Mae batris lithiwm cerbydau trydan hefyd yn cynnwys metelau fel copr, alwminiwm a haearn sydd, ynghyd â deunyddiau crai hanfodol eraill, angen defnyddio llawer iawn o ynni i'w hechdynnu.

A phan ystyrir yr allyriadau a gynhyrchir ar draws oes cerbyd, gan gynnwys ei gynhyrchu, mae ymchwil gan Lywodraeth y DU yn dangos bod cerbydau trydan tua 60% yn lanach na cheir diesel a 66% yn well i'r amgylchedd na cheir petrol cyfatebol. Bydd y ffigurau hyn yn parhau i wella gydag amser.

Byddwch. Mae Llywodraeth y DU yn gwahardd gwerthu ceir a faniau petrol a diesel newydd o 2030 ymlaen, a bydd cerbydau hybrid yn dilyn bum mlynedd yn ddiweddarach. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau yn yr arfaeth i wahardd y defnydd o gerbydau petrol neu ddiesel a werthwyd cyn y dyddiadau hyn.