The University of Wales Trinity Saint David car salary sacrifice scheme offers all qualifying employees a simple, more affordable and stress-free way to drive a brand-new vehicle.
Through the scheme, you can lease a brand new ultra-low emissions vehicle (ULEV) under a salary sacrifice arrangement, using our dealerships and leasing division. All ULEV makes and models are available and can be driven under the scheme, with servicing, maintenance and repairs carried out in our own workshops.
Salary sacrifice is when you agree to swap part of your monthly pay before tax for a non-cash benefit, in this case a company car. As your gross salary is lower, you benefit from savings on your income tax, national insurance and pension contributions.
Under the arrangement, you will pay a company car ‘Benefit in Kind’ (BIK) tax based on the CO2 emissions and value of the car. To help drive the take up of EVs, this is set at just 2% to 2025 for electric cars compared to 15% and more for petrol and diesel vehicles. This is significantly less than the income tax saved on the sacrifice.
Servicing, maintenance, insurance, breakdown cover and MOT are all included in the fixed monthly price, there is no deposit to pay or credit check required.
The University of Wales Trinity Saint David is working in partnership with Knowles Fleet to run the scheme which offers unlimited, personalised quotes based on your car choice and mileage to ensure you find the perfect vehicle for you. Knowles Fleet’s expert team is also on hand to support you throughout the term of your lease.
Mae Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer Car Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig ffordd syml, mwy fforddiadwy a hwylus i bob gweithiwr cymwys yrru cerbyd newydd sbon.
Drwy'r cynllun, gallwch brydlesu cerbyd allyriadau isel iawn (ULEV) newydd sbon o dan drefniant aberthu cyflog, gan ddefnyddio ein delwriaethau a’n hisadran prydlesu. Mae pob math a model o gerbydau allyriadau isel iawn ar gael y gellir eu gyrru o dan y cynllun, ac mae’r gwaith gwasanaethu, cynnal a chadw ac atgyweirio yn cael ei wneud yn ein gweithdai ein hunain.
Ystyr aberthu cyflog yw pan ydych yn cytuno i gael budd anariannol, sef car cwmni yn yr achos hwn, yn gyfnewid am ran o'ch cyflog misol cyn treth. Gan fod eich cyflog gros yn is, rydych chi’n elwa ar arbedion ar eich treth incwm, yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn.
O dan y trefniant, byddwch yn talu’r dreth buddion mewn nwyddau neu wasanaethau ar gyfer car cwmni ar sail allyriadau CO2 a gwerth y car. I helpu i ysgogi cynnydd yn y nifer o bobl sy’n defnyddio cerbydau trydan, 2% yn unig fydd y gyfradd ar gyfer ceir trydan hyd at 2025, o gymharu â 15% a mwy ar gyfer cerbydau petrol a diesel. Mae hyn gryn dipyn yn llai na’r dreth incwm a arbedir ar yr aberth.
Mae’r costau gwasanaethu a chynnal a chadw, yswiriant, gwasanaeth torri i lawr a phrofion MOT i gyd wedi'u cynnwys yn y pris misol sefydlog, nid oes blaendal i'w dalu ac nid oes angen gwneud gwiriadau credyd.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweithio mewn partneriaeth â Knowles Fleet i redeg y cynllun, y mae’n cynnig dyfynbrisiau diderfyn, personol ar sail eich car dewisol a'ch milltiredd disgwyliedig er mwyn sicrhau eich bod yn dod o hyd i'r cerbyd perffaith ichi. Mae tîm arbenigol Knowles Fleet hefyd wrth law i'ch cefnogi drwy gydol cyfnod eich prydles.